Transcribed from the 1906 Ab Owen edition , email ccx074@coventry.ac.uk
Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farwyng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwydef i huno.
O’r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd eidad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Reesfel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyafadnabyddus y teulu,—
John Roberts - Mary Brees y Coed. (1767-1834) | | +--------+------------+--------+-------------+ Maria Samuel Anna John Richard (1797) (S.R.) (1801) (J.R.) (Gruffydd Rhisiart) | (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883) | Gohebydd - 1877.
Symudodd John Roberts a’i deulu, tua 1806, o Dy’r Capeli ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. “Tyddyn bychangwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechweddserth” oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.
Daeth S. R. yn gynorthwywr i’w dad fel gweinidog yn 1827; dilynoddef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedipenderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn,a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i’r America.
Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno ’n olAwst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troiei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co.,East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir;darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nidoedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw’r ymdrech mewn gwladanial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i’w beio, ac mai dyledswydd y Gogleddoedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.
O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu’r tri brawd byw ynyr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i’r un fynwent.
Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu ef a’i frodyr mewn llu o ddadleuon,—y mae y gornestwyroll wedi tewi erbyn hyn,—a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hunyn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm obob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a’i frodyr yn yBala, gan y Dr. E. Pan Jones.
Wele ddwy ran nodweddiadol o’i waith. Bu y Caniadauyn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw’r “TeuluDedwydd.” Hwy hefyd yw teulu “Cilhaul,” ac ymaent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.
OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Awst 1, 1906.
[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedibod yn foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr. Dont o flaenadeg y Bardd Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml,eu tynherwch mwyn, a’u synwyr cyffredin cryf.]
Y Teulu Dedwydd
Marwolaeth y Cristion
Y Lili Gwywedig
Cân y Nefoedd
Ar farwolaeth maban
Y Cristion yn hwylio i fôr gwynfyd
Cwyn a Chysur Henaint
Mae Nhad wrth y Llyw
Y Ddau Blentyn Amddifad
Cyfarchiad ar Wyl Priodas
Dinystr Byddin Sennacherib
Gweddi Plentyn
Cwynion Yamba, y Gaethes ddu
Y creulondeb o fflangellu benywod
Y fenyw wenieithus