Transcribed from the 1910 Llanuwchllyn: Ab Owen edition byDavid Price,
**
Y PedairColofn.
Cywydd Henaint.
Llanuwchllyn: Ab Owen
1910.
p. iiArgraffwyd aChyhoeddwyd: Ab Owen gan R. E.Jones
a’i Frodyr, Conwy.
Ganwyd Thomas Edwards (Twmo’r Nant) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r NantGanol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis,yn ei rieni; gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddaieu bachgen athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennillei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrrugwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O amgylchDinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro iddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd ytreuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parodei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3,1810, gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr EglwysWen, ger Dinbych.
Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd eiathrylith, er cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei llepriodol ym meddwl Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsaifeddwl p.ivCymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai cenedl yn deffro iweled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef ynddiweddarach, buasai’r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedisancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedlnewydd yn yr un drych. Ond daeth Twm o’r Nant yn oesy Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn galw ar y genedl iedrych o honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y maeinterliwdiau Twm o’r Nant yn naturiolach a pherffeithiachdarlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn.
Yr oedd cydymdeimlad Twm â’r werin, rhed hollnerth ei serch mawr at y tenant gorthrymedig a’rgweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad Ffrengig ynddoyntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.
Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag uneithriad, mor rymus dros foesoldeb a phregethau’rDiwygiad. Ni welodd holl ddrwg chwant y cnawd.
Fel dramayddwr y mae’n fwy nag yw’r Wyddfa ynEryri, saif yn llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Ymae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid yw’n gwneyd i glaidifywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad felysbryd goreu ei oes,—yn synhwyrol, ac ar yr un pryd ynllawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fusant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o’rNant wedi dweyd y gwir.
Owen M.Edwards.
p. v...