Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition byDavid Price,
*
CASGLWYDGAN
OWEN M. EDWARDS.
Y DARLUNIAUGAN
WINIFRED HARTLEY
(Lowrie Wynn.)
1911
Ab Owen, Llanuwchllyn.
Argraffwyd a Chyhoeddwyd, dros AbOwen, gan
R. E. Jones a’i Frodry,Conway.
Ambell orig daw hen hwiangerdd, felsu melodaidd o gartref pell a hoff, i’r meddwl. Dawun arall ar ei hol, ac un arall,—a chyda hwy daw adgofioncyntaf bore oes. Daw’r llais mwynaf a glywsom erioedi’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cofam ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. Adaw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddihwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifersydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt ynllenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? Aadawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Ynun peth,—y maent yn adlais o ryw hen bennill genidgyda’r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhywseiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent ynllais i lawenydd y galon wrth suo’r plentyn i gwsg. Affynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nidi wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’nddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysoriymgais y mamau mwyaf athrylithgar.
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwyddefnyddia’r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwauarnynt,—Modryb ’y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys,Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chwareâ’u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd,siaradant â’u gilydd; ant gyda’u gilydd ichware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i’rmynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, acfelly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bobbys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oeddy gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a’rbys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gariodŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y byseddyw’r actors yn y ddrama.
Wedi’r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yrun chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oeddpedoli, curo gwadnau’r traed bob yn ail, a phedoli danganu.
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad ynllonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y maemynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentynyw cael ei ddawnsio’n wyllt ar y lin. “Gyrru iGaer” yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf oblant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, iddynodi rhyw drychineb ysmala,—dod adre wedi priodi, boddiyn y potes, neu dorri’r pynnaid llestri’ndeilchion. Mae’r coesau a’r breichiau bychain ifynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn mân dychymyg y plentynyn chware’n wyllt hefyd.
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai yplentyn i gwsg. Ai’r llong i ffwrdd yn ddistaw,carlamai’r cel bach yn esmwyth, doi’r nos dros furiauCaer.
A yw’r hwiangerddi’n foddion a